Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2019

Amser: 08.50 - 10.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5477


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd)

Michelle Brown AC

Mike Hedges AC (yn lle Jack Sargeant AC)

Leanne Wood AC

Tystion:

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Neil Hemington, Llywodraeth Cymru

Stephen Phipps, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Elfyn Henderson

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn lle Jack Sargeant.

 

Croesawodd y Cadeirydd Michelle Brown i’w chyfarfod cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn dystiolaeth: Cynllunio

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.

 

Cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-881 Trwsio ein system gynllunio i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gan gynnwys y potensial ar gyfer apeliadau lle cymeradwywyd cais cynllunio yn groes i gynnwys cynllun datblygu lleol, sut mae modd herio penderfyniadau cynllunio, a phrosesau ar gyfer monitro perfformiad arolygwyr cynllunio.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r deisebydd i ofyn am ei ymateb i'r dystiolaeth a glywyd ac i nodi barn y Pwyllgor nad yw'n ymddangos bod llawer arall y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd, oni bai bod gan y deisebydd unrhyw wybodaeth ychwanegol i'w rhannu.  

 

</AI6>

<AI7>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

</AI7>

<AI8>

4       Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth y cyflwynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunwyd ar gamau gweithredu pellach ar bob un o'r deisebau a drafodwyd.

</AI8>

<AI9>

5       Deisebau newydd

</AI9>

<AI10>

5.1   P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·      ymateb yn ysgrifenedig i’r Gweinidog Addysg i ofyn:

o   a fyddai'n ystyried 'dynodi' y cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis i alluogi myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymorth i fyfyrwyr i astudio yno; ac

o   a oes unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r sefydliad am hyn.

 

</AI10>

<AI11>

5.2   P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i ymchwilio yn fanylach i'w pryderon mewn perthynas â'r Llwybr Coch arfaethedig.

</AI11>

<AI12>

5.3   P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i ofyn am ei farn am y ddeiseb a gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch addysgu Cymraeg mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru. 

</AI12>

<AI13>

6       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI13>

<AI14>

6.1   P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

</AI14>

<AI15>

6.2   P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y deisebau.

</AI15>

<AI16>

6.3   P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y deisebau.

 

</AI16>

<AI17>

6.4   P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r mater yn ei flaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.

</AI17>

<AI18>

6.5   P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â Refill, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn drwy'r broses ddeisebau.

</AI18>

<AI19>

6.6   P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebwyr.

</AI19>

<AI20>

6.7   P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y camau a gymerwyd i atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr angen i sicrhau bod asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu diweddaru drwy'r cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.

</AI20>

<AI21>

6.8   P-05-860 Dylid gwneud gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i wneud Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol o'r ddeiseb yng nghyd-destun y gwaith y mae'n ei ddatblygu ynghylch sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ei chanfyddiadau cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI21>

<AI22>

6.9   P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>